Rhif y ddeiseb: P-06-1327

Teitl y ddeiseb: Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant

Geiriad y ddeiseb:  Mae disgyblion Senedd Ysgol Mynydd Bychan yn credu'n gryf y dylai cyfleusterau canolfannau hamdden bod am ddim i blant yng Nghymru.  Fe fydd hyn yn ein helpu i gadw'n heini a byw bywyd iach.

 

 


1.        Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb hon yn crynhoi ei pholisïau ar gyfer creu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon am ddim.  Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

§    Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian, drwy Chwaraeon Cymru, i awdurdodau lleol gynnig sesiynau nofio am ddim i blant a phobl ifanc 16 oed ac iau.  Drwy'r cynllun, cynigir sesiwn sblash am ddim bob penwythnos ym mhob pwll nofio a dwy sesiwn ychwanegol yn ystod gwyliau'r haf. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnig cymorth penodol i annog pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig i gymryd rhan yn y cynllun Nofio am Ddim.

§    £7m ar ffurf cyllid untro tuag at Haf o Hwyl 2022, a oedd yn rhan o becyn   cymorth ehangach i helpu teuluoedd ledled Cymru i ymdopi â’r argyfwng costau byw. Roedd y fenter hon yn adeiladu ar Haf o Hwyl 2021 a’r Gaeaf Llawn Lles, a oedd hefyd yn fentrau a ariannwyd â chyllid untro i hybu lles ar ôl pandemig Covid-19.

 

2.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Mae pryderon yngylch effaith y cynnydd mewn costau byw ar gyfleusterau hamdden wedi’u codi gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (yn ystod ei waith ar effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon) a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (yn ystod ei waith ar wasanaethau llyfrgell a hamdden awdurdodau lleol).

2.1.          Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yn ystod ei waith ar effaith y cynnydd mewn costau byw ar ddiwylliant a chwaraeon, clywodd y Pwyllgor y byddai costau cynyddol yn arwain at gyfyngiadau ar weithgareddau, prisiau uwch a’r posibilrwydd y bydd gwasanaethau hamdden yn dod i ben.  Ym mis Tachwedd 2022, argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru roi “cyllid ychwanegol penodol i’r sectorau chwaraeon a diwylliant i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu’r posibilrwydd o orfod cau ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol.”

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn. Yn ei hymateb tynnodd sylw at y ffaith ei bod wedi rhoi £3.75 miliwn ychwanegol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 i helpu gydag “effeithiau aruthrol chwyddiant ar gostau cyfleustodau a chostau byw cyrff hyd braich a sefydliadau yn y sector lleol”. Nid yw’r cyllid ychwanegol hwn wedi arwain at gyllid penodol i helpu sefydliadau i oroesi’r cyfnod o gostau uwch, fel y galwodd y Pwyllgor amdano.

Yn ystod yr ymchwiliad, disgrifiodd Andrew Howard o Gymdeithas Chwaraeon Cymru y sefyllfa arbennig o anodd sy’n wynebu pyllau nofio, sydd â biliau ynni uchel, ac sy’n wynebu problemau eraill hefyd, fel costau cynyddol cemegau glanhau.

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2023, galwodd y Pwyllgor arni eto i roi cymorth ychwanegol i gyfleusterau chwaraeon a hamdden, a phyllau nofio yn benodol. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, yng Nghyllideb y Gwanwyn, ei bod am roi cymorth ariannol gwerth £63 miliwn i byllau nofio Lloegr. 

2.2.        Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Ar 29 Mawrth 2023, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, tanlinellodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru yr angen i ddarparu cyllid ychwanegol. Cyfeiriodd Fergus Feeney o Nofio Cymru at faint y cyllid sydd ei angen: “Just outlining the gap, we think between £10 million and £12 million, best case. But we start at about £30 million. So, this is a significant problem.”

Disgrifiodd Mr Feeney effaith y prisiau uwch ar blant sy’n dysgu nofio:

The average lesson pre COVID was £6.50 for a swimming lesson, and post-COVID, in the current environment across Wales, the average cost of a swimming lesson is £12.50. So, we've nearly doubled the cost of a swimming lesson. Those children in those harder-to-reach areas, underserved areas, socially and economically deprived areas, have no chance, and that's why school swimming is so important. We celebrate the 150,000 who are in those lessons—that's fantastic—but they're the ones that can afford it. We're going to have a situation very soon where, dare I say it, white middle-class children will be able to swim and the rest won't.

2.3.         Y Pwyllgor Deisebau

Mae’r Pwyllgor eisoes wedi trafod deiseb  yn:

… galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gydnabod pa mor fregus yw sefyllfa pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ar 27 Chwefror 2023.  Er ei bod yn siomedig na chaiff cyllid ei glustnodi ar gyfer canolfannau hamdden, meddai, roedd y deisebydd yn teimlo bod ei gyfarfod yn ddiweddar â'r Gweinidog wedi bod yn ddefnyddiol, a bydd yr ymgyrch yn awr yn canolbwyntio ar Lywodraeth y DU. O ystyried hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.